91É«Ç鯬

Fy ngwlad:

Bwrdd Cymunedol

Aelodau o'r Bwrdd

Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol:

Cyfarfodydd

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬 (5 Fehefin 2025) a gynhaliwyd yn Neuadd Reichel, Prifysgol 91É«Ç鯬. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Adra, Cyngor Dinas 91É«Ç鯬, Storiel; Canolfan Dysgu Morwrol 91É«Ç鯬, Menter Iaith 91É«Ç鯬, Parc Cenedlaethol Eryri, Gisda, Cyngor Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN), Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica (NWAS).

Materion dan sylw: Gydag Iwan Williams yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; cyflwynodd Dr Martin Hanks, ar ran Cyngor Dinas 91É«Ç鯬, sawl brosiect sy’n ymwneud ar ddathliadau ar gyfer pen-blwydd y Ddinas yn 1500 mlwydd oed yn cynnwys dathliadau Diwrnod VE yn ddiweddar. Ar ran tîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru, cyflwynodd Catrin Jones diweddariad ar ran ei gwaith o fewn ein cymunedau. Cyflwynodd Danielle Williams, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol 91É«Ç鯬, ddiweddariad ar lwyddiant Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol. Ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol 91É«Ç鯬, fe gyflwynodd Mya Tibbs sawl prosiect sydd wedi cael ei chefnogi eleni gan fyfyrwyr y Brifysgol. Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyflwynodd Brian Laing crynodeb o’r prosiect ‘Gogledd Cymru Well’. Derbyniwyd rhagor o ddiweddariadau (yn ysgrifenedig) gan Parc Cenedlaethol Eryri, Sefydliad Confucius, a Mantell Gwynedd.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned ar sawl digwyddiad dros y wythnosau nesaf gan gynnwys; Gŵyl Draig Beats yn Nhreborth, Gŵyl Archeolegol Ecoamgueddfa, Diwrnod Cymunedol Grŵp Llandrillo Menai a phresenoldeb y Brifysgol yn Eisteddfod Wrecsam yng nghanol yr haf.Derbyniwyd diweddariad ar Gronfa Gymunedol y Brifysgol gyda pedwar prosiect wedi eu cefnogi eleni. Cefnogwyd cynllun Bwrsariaeth Myfyrwyr Cyngor Dinas 91É«Ç鯬 pedwar bwrsari yn dilyn proses drylwyr, a bydd y tîm Ymgysylltu Dinesig yn diweddaru’r Bwrdd wrth i'r prosiectau ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2025. 

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬 (23 Fawrth 2025) a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Prifysgol 91É«Ç鯬. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Adra, Cyngor Dinas 91É«Ç鯬, Storiel; Canolfan Dysgu Morwrol 91É«Ç鯬, Menter Iaith 91É«Ç鯬, Grŵp Llandrillo Menai, Cyngor Dinesig 91É«Ç鯬, Parc Cenedlaethol Eryri, Ecoamgueddfa, Gisda, Cyngor Ynys Môn, CVSC.

Materion dan sylw: Gyda’r Gwenan Hine yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; ar ran Sefydliad Confucius, darparodd Lina Davitt drosolwg o’r gwaith y sefydliad yn enwedig yn y gymuned. Cyflwynodd Dr Martin Hanks, ar ran Cyngor Dinas 91É«Ç鯬, sawl brosiect sy’n ymwneud ar ddathliadau ar gyfer pen-blwydd y Ddinas yn 1500 mlwydd oed. Cyflwynodd Dr Einir Young, ar ran yr Ecoamgueddfa, ar y prosiect sydd wedi ei leoli lawr ym Mhen LlÅ·n. Derbyniwyd rhagor o ddiweddariadau (yn ysgrifenedig) gan Fenter Iaith 91É«Ç鯬, Parc Cenedlaethol Eryri, CVSC, Prosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy a Gisda.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned, gan gynnwys diweddariad ar y GwÅ·l Hanes diwedd y flwyddyn, mewn partneriaeth gyda Chyngor Dinas 91É«Ç鯬. Derbyniwyd diweddariad am y Gronfa Gymunedol yn dilyn y pedwerydd galwad yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd pedwar prosiect ei gefnogi eleni. Dros y wythnosau nesaf bydd y Brifysgol yn lansio Bwrsariaeth Myfyrwyr Cyngor Dinas 91É«Ç鯬, cynllun sy’n ceisio cryfhau’r cysylltiad rhwng yr ymchwil academaidd a wneir ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 a phenderfyniadau strategol Cyngor Dinas 91É«Ç鯬.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2025.

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬 (7 Hydref 2024) a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Prifysgol 91É«Ç鯬. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); Storiel; Cadeirlan 91É«Ç鯬; Canolfan Dysgu Morwrol 91É«Ç鯬, Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica (NWAS), Mantell Gwynedd, Menter Iaith 91É«Ç鯬, Grŵp Llandrillo Menai.

Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; ar ran y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, darparodd Alan Edwards drosolwg o brofiad Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol. Cyflwynodd Danielle Williams, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol 91É«Ç鯬, ddiweddariad ar gynnydd cais Siarter Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol. Cyflwynodd Darren Morley Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol 91É«Ç鯬 sy'n agor yn ddiweddarach y mis hwn. Rhoddodd Dr Nia Jones, ar ran Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, drosolwg o'r Ysgol Feddygaeth i'r grŵp. Cafwyd rhagor o ddiweddariadau gan Ganolfan Dysgu Morwrol 91É«Ç鯬, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Mantell Gwynedd.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned, gan gynnwys llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol. Nodwyd bod y digwyddiad IWA terfynol wedi'i gynnal ar 3 Hydref yn Pontio a bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn cynllunio digwyddiadau eu hunain yn gynnar y flwyddyn newydd. Disgwylir i'r Gronfa Gymunedol gael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd partneriaeth ranbarthol newydd, gyda chefnogaeth MEDR, yn gweld Prifysgol 91É«Ç鯬 yn cydweithio â Phrifysgol Wrecsam, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria ar gyfres o weithgareddau dros y 12 mis nesaf.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2025.

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬 (17 Fehefin 2024) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Adra; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Storiel; Cadeirlan 91É«Ç鯬; Cyngor Tref Porthaethwy.

Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; Martin Hanks - trosolwg o waith Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Ingrid Pedersen – Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol Prifysgol 91É«Ç鯬 ar gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus dros y misoedd nesaf. Derbyniwyd diweddariadau pellach gan Gorff Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Prifysgol 91É«Ç鯬, Cyrsiau Byr Prifysgol 91É«Ç鯬, Canolfan Bedwyr, The 91É«Ç鯬 Trade Winds Project, Adra, Storiel, Cadeirlan 91É«Ç鯬, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Tref Porthaethwy.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu Cymunedol, gan gynnwys llwyddiant Eisteddfod yr Urdd ym Meifod yn ddiweddar a’r cynlluniau sydd i ddod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r tîm yn paratoi ar gyfer digwyddiad olaf yr IWA a gynhelir ar 3 Hydref yn Pontio a disgwylir i’r Gronfa Gymunedol gael ei lansio yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2024.

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬 (11 Mawrth 2024) a gynhaliwyd yn Hwb Gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol 91É«Ç鯬. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Adra; Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬; Mantell Gwynedd; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Menter Môn; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); EcoAmgueddfa; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬.

Materion dan sylw: Gydag Iwan Williams yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; Martin Hanks - trosolwg o waith Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Darren Morley - Cyrsiau Byr Prifysgol 91É«Ç鯬; Dr Beth Edwards – Gofod i Blant a Phobl Ifanc: Ymgynghori â’r Gymuned; Dr Lori Beckett - Project Tlodi a Dysgu mewn Ysgolion Trefol Derbyniwyd diweddariadau pellach gan Mantell Gwynedd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru, Ecoamgueddfa, Storiel, Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬, Adra, Menter Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chorff Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Prifysgol 91É«Ç鯬. Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu Cymunedol, gan gynnwys llwyddiant Gŵyl Wyddoniaeth 91É«Ç鯬 yn ddiweddar a digwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) sydd i ddod ar 19 Mawrth a diweddariad ar drydydd galwad Cronfa Gymunedol Prifysgol 91É«Ç鯬. Yn ddiweddar, dyfarnodd y gronfa 7 project arall gan ddod â chyfanswm y projectau i 18 ers lansio'r gronfa. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2024.

Cynhaliwyd yn NhÅ· Gwyrddfai, Adra, Penygroes. Yn bresennol: Roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn bresennol yn y cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Adra; Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬; Mantell Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Menter Iaith 91É«Ç鯬, Cyngor Dinas 91É«Ç鯬 a Menter Môn.

Materion dan sylw: Yr Athro Andrew Edwards oedd yn cadeirio a thrafodwyd y materion canlynol; cafwyd trosolwg o Dŷ Gwyrddfai a sut mae'r cyfleuster yn cefnogi cymunedau lleol gan y Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yn Adra; rhoddodd Dr Marcel Ferrand (Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr), a dderbyniodd gyllid o Gronfa Cydweithio Cymunedol y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gyflwyniad yn sôn am sut y defnyddiwyd yr arian i drefnu dau ddigwyddiad glanhau traethau gyda grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol; cafwyd diweddariad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig am y Gronfa Gymunedol, y Diwrnod Cymunedol a’r amrywiol ddigwyddiadau y mae’r tîm wedi bod ynddynt dros fisoedd yr haf. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2024.

Presennol: Daeth cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol i’r cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Adra; Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬; Clwb Pêl-droed Dreigiau Gogledd Cymru.

Materion dan sylw: Gyda Gwenan Hine yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol; diweddariad gan Martin Hanks o Gyngor Dinas 91É«Ç鯬 a'r datblygiadau amrywiol yng nghanol dinas 91É«Ç鯬 a'r cyffiniau; cyflwyniad gan Chris Roberts, Clwb Pêl-droed Dreigiau Gogledd Cymru, derbynnydd Cronfa Cydweithredu Cymunedol Ymgysylltiad Dinesig; diweddariad ar ddatblygiadau Parc y Coleg gan y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Campws; diweddariad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gan gynnwys diweddariad ar y Gronfa Gymunedol, y Diwrnod Cymunedol a'r digwyddiadau amrywiol a drefnwyd dros yr wythnosau; Rhoddodd Gwirfoddoli Myfyrwyr 91É«Ç鯬 (GMB) drosolwg ar rai o'r projectau sydd ar y gweill a diolchodd i Gyngor Dinas 91É«Ç鯬 am eu cefnogaeth barhaus; nodwyd y cynhelir yr wythnos raddio yn y brifysgol rhwng 10 a 14 Gorffennaf. Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf i’w cadarnhau. 

Presennol: Daeth cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol i’r cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru; Adra; Mantell Gwynedd; Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬; Menter Môn; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Canolfan Groeso Wcrain ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬; diweddariad ar drin cwad Prif Adeilad y Celfyddydau; adborth o ddigwyddiad Sefydliad Materion Cymreig – digwyddiad ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 ym mis Hydref ar dwristiaeth gynaliadwy; diweddariad ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru; cyflwyniad gan gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); cyflwyniad gan gyfarwyddwr Dinas Cyngor 91É«Ç鯬 ar yr amrywiaeth o brojectau i helpu adfywio canol y ddinas; crynodeb byr ar Barc y Coleg; cyflwyniad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gan gynnwys diweddariad ar y wefan, lansiad y Gronfa Gymunedol, y diwrnod cymunedol ac adborth o holiadur y Bwrdd Cymunedol; diweddariad ar waith Gwirfoddoli Myfyrwyr 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg 91É«Ç鯬 (UMCB) ar amrywiol brojectau yn ymwneud â phobl hÅ·n, plant a phobl ifanc, yr amgylchedd, lles a chodi arian. Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf a sut caiff ei gynnal (ar-lein neu yn y cnawd) i'w cadarnhau.

Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru (NWREN); Adra; Mantell Gwynedd; Heddlu Gogledd Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcrain; adborth ar Seremonïau Graddio dros yr haf; apwyntiad yr Is-Ganghellor newydd; diweddariad ar brosiectau Parc y Coleg a’r Cwad Mewnol; crynodeb o raglen waith Pontio; cyflwyniad ar y strategaeth Cenhadaeth Ddinesig newydd, yn ogystal a’r dudalen we newydd ar wefan y Brifysgol, yr arolwg staff ar ymgysylltu allanol a chrynodeb o’r digwyddiad yn trafod twristiaeth yn Pontio ar 6ed Hydref a drefnwyd gyda’r Sefydliad Materion Cymreig; diweddariad ar waith Gwirfoddoli Myfyrwyr 91É«Ç鯬, gan gynnwys digwyddiad i ddathlu 70 mlynedd o wirfoddoli ym Mangor; crynodeb fer o waith Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru; diweddariad ar waith Undeb Myfyrwyr Cymraeg 91É«Ç鯬; crynodeb fer o waith Heddlu Gogledd Cymru yn y gymuned ym Mangor; trafodaeth ar sut i gryfhau cyfathrebu rhwng y Brifysgol a’r gymuned; diweddariad ar waith recriwtio myfyrwyr y Brifysgol; crynodeb fer o waith Cyngor Dinas 91É«Ç鯬 a’r gwaith i adfywio canol y ddinas; diweddariad ar brosiect ‘Ar y Lôn’ M-SParc ym Mangor; trafodaeth fer ar faterion tai a chefnogi myfyrwyr ym Mangor. 

Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Cymdeithas Ddinesig 91É«Ç鯬; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru (NWREN); Rhwydwaith Dolan; Medrwn Môn; Adra; Grŵp Llandrillo Menai. 

Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Genhadaeth Ddinesig, yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcrain; y diweddaraf ar benodi’r Is-Ganghellor newydd; y trefniadau ar gyfer staff a myfyrwyr ar y campws o fis Medi ymlaen; paratoadau ar gyfer Seremonïau Graddio Haf 2022; y diweddaraf ar brosiect Parc y Coleg a’r cyfleusterau ar gyfer sglefrfyrddwyr; y diweddaraf ar strategaeth a thudalen we Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol a’r posibilrwydd o Ddiwrnod Cymunedol yn 2023; crynodeb o ganlyniadau REF 2021 y Brifysgol; diweddaraf ar waith Grŵp Llandrillo Menai a’r cydweithio gyda’r Brifysgol; diweddariad ar strategaeth ystadau y Brifysgol; diweddariad ar Gyngor Dinas 91É«Ç鯬 yn dilyn etholiadau lleol mis Mai 2022; crynodeb o waith Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬. 

Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol 91É«Ç鯬 ac Undeb Myfyrwyr 91É«Ç鯬; Heddlu Gogledd Cymru; Mantell Gwynedd; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas 91É«Ç鯬; Ysgol Friars; Adra; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Medrwn Môn; Grŵp Llandrillo Menai; Rhwydwaith Dolan. 

Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Genhadaeth Ddinesig, yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Achosion o sbeicio diodydd ymysg myfyrwyr a gwaith y Brifysgol/Heddlu i atal hyn; datblygiadau gyda phrosiect Parc y Coleg; Seremonïau Graddio Haf 2022; y diweddaraf ar ymateb y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd i bandemig Covid-19; cefnogaeth posib i ffoaduriaid o Wcrain; y diweddaraf gyda rhaglen Pontio; datblygiadau gyda strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol; datblygiadau gyda phrosiect ‘Cymunedau Glan a Thaclus’ Cyngor Gwynedd ynghanol dinas 91É«Ç鯬; y diweddaraf ar Hwb Iechyd a Llesiant posib a’r Ysgol Feddygol i canol dinas 91É«Ç鯬; y diweddaraf ar brosiectau Adra ym Mangor; y diweddaraf ar brosiectau Partneriaeth Ogwen yn ardal Bethesda; diweddariad ar etholiadau lleol Cyngor Dinas 91É«Ç鯬 yn mis Mai 2022; datblygiadau gyda’r cynllun atal llifogydd yn ardal Hirael, y posibilrwydd o’r Brifysgol yn cynnal Diwrnod Cymunedol yn 2023.