91É«Ç鯬

Fy ngwlad:

Meddygaeth

Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Sicrhewch eich bod yn gwirio'r gofynion mynediad a'ch bod yn cynnwys pob cymhwyster perthnasol ar y ffurflen (yn cynnwys graddau dros dro os ydych yn disgwyl am ganlyniadau). Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl i ganlyniadau Lefel-A gael eu rhyddhau i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.

Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion)

Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion) yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Sicrhewch eich bod yn gwirio'r gofynion mynediad a'ch bod yn cynnwys pob cymhwyster perthnasol ar y ffurflen (yn cynnwys TGAU, Lefel A a gradd). Nodwch hefyd os ydych yn disgwyl am unrhyw ganlyniadau a rhowch eich canlyniadau dros dro. Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl 14 Awst i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.

Fferylliaeth 

Mae lleoedd Fferylliaeth ar gael drwy'r system Glirio. Cofrestrwch eich diddordeb, a byddwn yn cysylltu â'r rhai ar y rhestr yn syth ar ôl Diwrnod Canlyniadau Lefel-A i drafod cyfleoedd Clirio posibl.

Chwilio am Gwrs Drwy Clirio

Gwylio - Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio

Clawr fideo efo llun Dafydd, logo Prifysgol 91É«Ç鯬 a'r ysgrifen Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬
Fideo: Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio

Pwy All Wneud Cais Drwy Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬?

  • Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol 91É«Ç鯬 drwy Clirio.
  • Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol 91É«Ç鯬 yn uniongyrchol drwy Clirio.

Pam Gwneud Cais i Brifysgol 91É«Ç鯬 Drwy Clirio?

Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 drwy Clirio am sawl rheswm:

  • Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 gynnig eich cyfle nesaf.
  • Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬.
  • Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
  • Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
  • Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬 gynnig llwybr i addysg uwch.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Clirio Nawr

Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio mewn labordy

Dod o hyd i'r cwrs i chi drwy Clirio Lleoedd Clirio

Edrychwch drwy ein cyrsiau israddedig am wybodaeth fanwl ar gyrsiau unigol fel eich bod yn barod os byddwch yn ffeindio eich hun yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau.

Pam dewis Prifysgol 91É«Ç鯬?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio

Mae ein llety wedi eu gosod fel y 1af yng Nghymru a'r 12fed am lety myfyrwyr yn y DU gan University Compare (2026). Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol 91É«Ç鯬 ar UCAS erbyn Dydd Iau, 28 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 1 Medi.

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Rydym yn 3ydd yng Nghymru am Fywyd Cymdeithasol gan University Compare (2026), ac yn falch o gynnig cymuned fyfyrwyr bywiog a chroesawgar.

 

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden. 

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

5 Awgrym Da Clirio

Os yn bosibl, peidiwch â bod ar wyliau nac yn y gwaith, cadwch y diwrnod yn rhydd i gysylltu â phrifysgolion. Mae angen i chi fod ar gael i siarad â thiwtoriaid derbyniadau a gwneud penderfyniadau eich hun – ni all eich rhieni, athrawon a ffrindiau wneud hynny ar eich rhan. Os oes rhaid i chi weithio'r diwrnod hwnnw neu os ydych i ffwrdd yn teithio neu ar wyliau, mae'n werth rhoi awdurdod i riant/gwarcheidwad weld manylion eich cais UCAS fel y gallant siarad ar eich rhan. 
 

Efallai nad ydych wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen arnoch, ond efallai y bydd y brifysgol sydd gennych fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eich derbyn ar y cwrs. Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid i chi ddefnyddio’r drefn Glirio. Os ydynt yn penderfynu peidio â’ch derbyn, neu os nad oes gennych gynigion gan unrhyw sefydliad, rydych yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio. Mae ymgeiswyr sy'n gwneud ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y system glirio ac maent hwythau hefyd yn gymwys.

Byddwch yn gwybod eich bod yn y drefn Clirio os ydi eich cais UCAS yn dweud ‘you are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’. Os ydych yn y drefn Clirio, rhaid i chi gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydych yn bodloni eu gofynion.

Yn ystod y cyfnod Clirio, gall y llinellau ffôn fod yn brysur, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael eich trosglwyddo i'r adran berthnasol, efallai y gofynnir i chi ffonio'n ôl yn nes ymlaen, neu efallai y bydd y brifysgol yn eich ffonio chi'n ôl. Peidiwch â phoeni, mae Clirio yn para am lawer mwy nag un diwrnod felly mae gennych amser i benderfynu a dod o hyd i gwrs.

Sicrhewch fod eich rhif cais UCAS, eich rhif Clirio, y codau cwrs, eich canlyniadau Lefel A a’r canlyniadau TGAU perthnasol wrth law gan y bydd y staff ar y Llinell Gymorth yn gofyn amdanynt. Bydd angen eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost arnom hefyd er mwyn anfon eich cynnig Clirio atoch yn ysgrifenedig. 
 

Yn union fel y gwnaethoch gyda'ch dewisiadau gwreiddiol, ystyriwch, er enghraifft, gynnwys a strwythur y cwrs, cyfleusterau academaidd, bywyd cymdeithasol, pellter o gartref, cyfleusterau chwaraeon a chostau byw. Efallai y byddwch yn falch o gael cynnig cwrs arall, ond mae angen o hyd i chi ddewis y cwrs iawn yn y brifysgol iawn i chi.

Nid oes yn rhaid i chi fynd am yr un pwnc ag y gwnaethoch gais amdano yn wreiddiol, ond os byddwch yn mynd am rywbeth gwahanol, efallai y bydd y brifysgol yn dal i ddisgwyl i chi fod wedi gwneud pynciau Lefel A penodol. Os yw'r cwrs o’ch dewis yn llawn, edrychwch ar ddewisiadau eraill cysylltiedig, er enghraifft, ar gyfer Meddygaeth, ystyriwch Wyddorau Meddygol neu Wyddorau Biofeddygol.

Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig Clirio cyntaf a gewch. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn hapus i chi gymryd amser i wneud yn siŵr bod y cwrs a'r brifysgol yn addas i chi. 
 

Ewch i ymweld â’r Brifysgol rydych yn bwriadu ei mynychu
Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion, fel Prifysgol 91É«Ç鯬, yn trefnu Dyddiau Agored a digwyddiadau ar gyfer ymgeiswyr Clirio y dylech fynd er mwyn i chi allu edrych o gwmpas y brifysgol a'r ardal, casglu mwy o wybodaeth am y cwrs, siarad â staff a myfyrwyr a phenderfynu a fyddech chi'n hapus yn astudio yn y sefydliad hwnnw.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig