Croeso i Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Fel myfyriwr newydd, rydych ar un o deithiau mwyaf trawsnewidiol eich bywyd ac rydym wrth ein bodd y byddwch yn ymuno 芒 ni ym Mhrifysgol 91色情片 wrth i chi gychwyn ar y cam nesaf yn eich addysg. Bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi cyrraedd cyn i chi wybod a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau eich gradd gyda ni.
Mae鈥檙 Ysgol academaidd hon yn gartref i鈥檙 meysydd pwnc canlynol:
- Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth
- Y Gyfraith
- Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
- Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
- Gwleidyddiaeth
- Plismona
Gwyddom fod hwn yn gyfnod cyffrous i chi - yn llawn pobl, lleoedd a phrofiadau newydd. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon ar unrhyw nifer o lwybrau gyrfa. Mae鈥檙 staff addysgu yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd a byddwn yn gwneud ein gorau i鈥檆h cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad myfyriwr yn un o ddysgu o safon a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni.
Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi鈥檌 datblygu i roi arweiniad ac mae鈥檔 cynnwys ystod o sesiynau a gweithgareddau gyda鈥檙 bwriad o鈥檆h helpu i ymgyfarwyddo gyda鈥檆h amgylchoedd. Yn ystod yr Wythnos Groeso cewch eich gwahodd i sesiwn gynefino. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio.
Gan edrych ymlaen at eich gweld yn fuan,
Yr Athro Peter Shapely
Pennaeth yr Ysgol