Daeth dros 700 o bobl ynghyd i Ardd Fotaneg Treborth ddydd Sadwrn, 7 Mehefin i fwynhau Gŵyl Draig Beats a oedd yn ddigwyddiad bywiog i’r teulu cyfan, gan godi dros £4,000 i gefnogi Ymddiriedolaeth Sophie Williams.
Dechreuodd yr ŵyl yn y Maes Llesiant gyda sesiwn ioga adfywiol a thaith gerdded llesol ar hyd y Fenai. Wedyn, cafodd ymwelwyr roi cynnig ar amrywiaeth o brofiadau tawelu’r meddwl, gan gynnwys Tai Chi, myfyrdod, a baddon sain yn y pebyll lotus belle tawel sydd wedi'u nythu ger y coetir. Yn yr Ardd Tsieineaidd, roedd y coed afalau uchel yn creu canopi tawel i ymgymryd â thriniaethau llesol, lle cafodd westeion brofi triniaethau tylino, reiki, ac adweitheg mewn lleoliad heddychlon a naturiol.
Roedd yr ŵyl yn gyfle i’r ymwelwyr archwilio ystod amrywiol o stondinau cymunedol ac arddangosiadau rhyngweithiol, gan gynnwys Gweithredu dros yr Hinsawdd Gogledd Cymru, Tecstillau, Llyn Parc Mawr, Hedgerow Foraging, Nature Keen, Sioe Flodau Llangoed, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch, ac Extinction Rebellion. Eleni, daeth Wandering Library, sef casgliad symudol o gylchgronau a gweithiau hunan-gyhoeddedig gan grewyr amgen, i ymuno â’r digwyddiad, ac aethant ati i greu cylchgrawn bychan arbennig wedi’i chyflwyno i’r ŵyl.




Gyda phwyslais cryf ar ymgysylltiad teuluol, ymunodd Draig Beats ag Ysgol Goedwig Wild Gog Gwyllt i gynnig ystod eang o weithdai, megis ioga chwerthin, capoeira, offerynnau taro wedi’u creu allan o sothach, a dawns Bollywood. Yn y cyfamser, roedd y prif labordy’n llawn syniadau wrth i fyfyrwyr PhD, staff er anrhydedd, a phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, gyflwyno sgyrsiau gwyddoniaeth diddorol drwy gydol y dydd.
Uchafbwynt newydd eleni oedd y Sawna Tân Pren Cwt Cedar, wedi'i lleoli'n berffaith rhwng y pwll bywyd gwyllt a'r ffin gloÿnnod byw, gan gynnig lle i ymlacio ac adfyfyrio yng nghanol bwrlwm yr ŵyl.
Roedd llwyfan newydd 'Draig Speaks' yr ŵyl yn cynnwys rhestr ysbrydoledig o feirdd lleol, adroddwyr straeon, griots a thrwbadwriaid, pob un yn dathlu pŵer y gair llafar yn angerddol.
Cerddoriaeth oedd calon y digwyddiad, gyda dau lwyfan bywiog yn arddangos talent leol eithriadol. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd caneuon llawn enaid Eve Goodman, anthemau egnïol gan Jodie Melodie, a rhythmau heintus y band swing sipsi Cymreig, Tacla. Bu sesiynau dawnsio bol yn y babell syrcas fawr, yn ogystal â dawnsio ceilidh llawen, a setiau anhygoel gan Voodoo Skank Collective a'r prif berfformwyr reggae-ska, Ram Ram. Daeth y noson i ben gyda Bloco Sŵn, gyda’r drymio taranllyd yn arwain gorymdaith stampio traed drwy’r ardd.
Dywedodd Natalie Chivers-Cross, Pennaeth Gardd Fotaneg Treborth, “Mae’r ŵyl hon yn cael ei phweru’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, tîm craidd ymroddedig, a rhwydwaith ehangach o aelodau’r gymuned a roddodd eu hamser a’u hymdrech yn hael cyn, yn ystod, ac ar ôl y digwyddiad. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n myfyrwyr gwirfoddol anhygoel o bob cwr o Brifysgol 91ɫƬ a ddefnyddiodd eu hamser rhydd ar ôl yr arholiadau i helpu i osod yr ŵyl, stiwardio a rheoli logisteg. Mae eu cyfraniad yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr ac yn creu cysylltiadau cymunedol parhaol.”
Ychwanegodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, “Fel arweinydd strategol y brifysgol dros ymgysylltu dinesig, mae'n wych gweld llwyddiant parhaus gŵyl Draig Beats wrth gefnogi Ymddiriedolaeth Sophie Williams. Mae'r ŵyl yn mynd o nerth i nerth, ac mae'n dyst i waith caled y tîm bod y brifysgol wedi croesawu dros 700 o ymwelwyr, gan gynnwys aelodau o'r gymuned, staff a myfyrwyr i Ardd Fotaneg Treborth ar gyfer y digwyddiad. Llongyfarchiadau i bawb.”
Mae'r ŵyl hefyd yn adlewyrchu haelioni ac ysbryd cydweithredol Prifysgol 91ɫƬ. O Reoli Ystadau a Gwasanaethau Campws ,i staff academaidd a ffrindiau Sophie Williams, bu llawer yn cyfrannu - o ddarparu diogelwch, cefnogaeth drydanol, a rheoli gwastraff, i yrru'r gwasanaeth bws mini a oedd yn cludo ymwelwyr yn ddiogel yn ôl ac ymlaen i’r safle.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol i gefnogi Dr Sophie Williams, Darlithydd er Anrhydedd mewn Cadwraeth Planhigion yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, mae Draig Beats wedi tyfu i fod yn gonglfaen calendr digwyddiadau cymunedol gogledd Cymru. Wrth iddi barhau i esblygu, mae'r ŵyl yn anelu at ddod yn sefydliad nid-er-elw, gyda chynlluniau i gynnal mwy o ddigwyddiadau, gweithdai a mentrau allgymorth sy'n cynnig cyfuniad unigryw o natur, celf a gwyddoniaeth, gyda photensial enfawr ar gyfer y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, lluniau, neu geisiadau am gyfweliadau, cysylltwch â whisper@dragigbeats.wales