Y Brifysgol yn derbyn sgôr 5 seren gan QS
Mae Prifysgol 91É«Ç鯬 wedi derbyn 5 Seren gan QS (Quacquarelli Symonds), yr arbenigwyr addysg byd-eang.
Mae system sgorio QS Stars yn asesu prifysgolion yn ôl yr arferion gorau’n fyd-eang ac mae’n bwrw golwg manwl dros bynciau penodol fel addysgu, cyflogadwyedd, ymchwil a rhyngwladoli.
Llwyddodd 91É«Ç鯬 i ennill sgor 5 seren ym mhob un o'r categorïau allweddol a 'Sgor Ardderchog' cyffredinol o 5 seren yn archwiliad QS dros yr haf.
Hefyd, ennillodd Prifysgol 91É«Ç鯬 y sgorau uchaf mewn sawl categori gan gynnwys Cyflogadwyedd, Boddhad Myfyrwyr yn ogystal ag enw da'r cyflogwr a’r elfen Academaidd.
Mae llwyddiant Prifysgol 91É«Ç鯬 ar system QS Stars yn dyst amlwg i'r gwaith caled a wneir ledled y sefydliad. Mae QS Stars yn cynnal archwiliad trwyadl o berfformiad y sefydliad ac mae’n amlygu ein llwyddiant wrth ddarparu profiad addysg o’r safon uchaf i’r myfyrwyr oll.
Cewch ragor o wybodaeth am System QS Stars