Cyfri’r Cewri
Mae llyfr yr Athro Gareth Roberts wedi cyrraedd siopau llyfrau erbyn hyn!Mae’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn adnabyddus am ei waith diweddar i boblogeiddio mathemateg ac mae ganddo lyfr newydd ar fin ei gyhoeddi.
Mae (Caerdydd, 2020) yn cyflwyno bywyd a gwaith dwsin o fathemategwyr blaenllaw, rhai ohonynt a aned yng Nghymru, ac eraill a gyflawnodd eu gwaith yng Nghymru. Prif neges y llyfr yw bod mathemateg yn rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.
Mae’r gyfrol newydd yn adeiladu ar waith Llewelyn Gwyn Chambers, cyn Ddarllenydd mewn mathemateg ym Mhrifysgol 91É«Ç鯬, yn ei lyfr arloesol Mathemategwyr Cymru (Caerdydd, 1994) lle manylodd ar hanes 70 a mwy o fathemategwyr Cymru.
Roedd yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn ddarlithydd mewn mathemateg yn y Coleg Normal ac yn Brifathro’r Coleg Normal (1994-96). Bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Ysgol Addysg y Brifysgol.
O ddiddordeb arbennig i Brifysgol 91É«Ç鯬, testun un o benodau Cyfri’n Cewri yw George Hartley Bryan (1864-1928), Pennaeth Adran Mathemateg 91É«Ç鯬 dros y cyfnod 1896-1925. Roedd Bryan yn athrylith yn ei faes ac yn awdur Stability in Aviation yn 1911, llyfr a osododd sail technoleg hedfan ac a George Hartley Bryan (1864-1928)arweiniodd at ddyfarnu iddo fedal aur y Royal Aeronautical Society ac anrhydeddau eraill. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad ecsentrig Bryan yn gymeradwy i awdurdodau’r coleg ar y pryd. O ganlyniad ni chafodd ei waith y clod dyladwy, fel y dangosodd yr Athro Jim Boyd wrth draddodi Darlith Gyhoeddus Ballard Mathews yn y coleg yn 2011 dan y teitl ‘Prophet without Honour’.
Roedd Dr Thomas Richards (Doc Tom), Llyfrgellydd y Brifysgol yn ddiweddarach, yn fyfyriwr yn nosbarth Bryan ac yn dyst i’w ymddygiad. Darlledodd Richards sgwrs radio yn 1953, dan y teitl Doctor Bryan, sy’n cynnwys ei sylwadau am y darlithydd. Mae’r bennod am Bryan yn Cyfri’n Cewri yn dyfynnu o sgript y rhaglen nad yw wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd lawer ac yn cymharu ffawd Bryan gydag enwogrwydd Syr John Morris-Jones, cyfoeswr iddo ym Mangor.
Yn 2010 dyfarnwyd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Athro Gareth Roberts am ei waith mewn mathemateg. Mae’n Gymrawd Prifysgol 91É«Ç鯬, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.